Enghraifft o'r canlynol | cylch o gerddi |
---|---|
Rhan o | Llyfr Du Caerfyrddin |
Iaith | Cymraeg Canol |
Dechrau/Sefydlu | 9 g |
Englynion y Beddau yw'r enw traddodiadol a roddir ar gasgliad o englynion sy'n ymwneud â lleoliad beddau hen arwyr Cymreig. Ceir y testun hynaf a helaethaf yn Llyfr Du Caerfyrddin. Mae englynion eraill sy'n perthyn i'r gyfres i'w cael ar wasgar mewn testunau eraill. Amcangyfrifir fod casgliad y Llyfr Du yn dyddio o'r nawfed neu'r ddegfed ganrif ac felly'n perthyn i lenyddiaeth Canu'r Bwlch. Diau fod englynion eraill yn cael eu hychwanegu i'r traddodiad o bryd i'w gilydd.
Mae'r englynion yn cyfuno lleoliad (yn aml yn amwys) beddau arwyr (gelwir y genre yn Llên enwau lleoedd) â rhestri o arwyr. Mae'r cyfeiriadau'n foel ond awgrymiadol a hynod Geltaidd eu naws; ceir rhestrau cyffelyb yn y traddodiad Gwyddeleg yn ogystal. Mae beddau'r arwyr yn tueddu i gael eu cysylltu a mannau claddu hynafol, fel twmpathau a chromlechi, neu lleoliadau anghysbell, amhendant, fel bryn uwch tonnau'r môr.
Dyma enghraifft o un o'r englynion, sy'n sôn am feddau Tydai Tad Awen a Dylan, mab Arianrhod ym Mhedair Cainc y Mabinogi:
Bedd Tydai Tad Awen,
yng ngodir Bryn Aren.
Yn ydd wna ton tolo,
Bedd Dylan Llan Beuno.
Er eu symlrwydd cymharol ddiaddurn mae'r englynion yn delynegol iawn, yn arbennig o'u darllen fel cyfres, ac yn cynnwys rhai o'r disgrifiadau gorau o natur yn y canu cynnar.